Heb Ffiniau
Prosiect ymchwil a datblygu oedd Heb Ffiniau yn archwilio iaith, hunaniaeth a thirwedd, a sut maent yn llunio ein synnwyr o berthyn. Gan ddod â chymysgedd eclectig o ffurfiau celfyddydol at ei gilydd, gofynnodd y prosiect: beth mae iaith yn ei olygu i chi?
Crëwyd ac arweiniwyd y prosiect gan Sarah Mumford, artist symudiad o Ogledd Cymru, gyda chefnogaeth Cwmni Theatr Hijinx a Chanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio, Bangor, a ariennir drwy Gronfa Loteri Genedlaethol Cyngor Celfyddydau Cymru.